brodor
Hwyrach glywch lais Daearol
Trwy len hen wernydd.
A wrandewch ar faetholion
A ddôn yn anfarwol?
Hwyrach glywch lêf Ddaearol
Dros lên hen rosydd,
Ein rhos adferol.
A wrandewch ar y wernen
A ddaw yn anochel?
Fforion greithiau dwfn
Ers teimlo erydr creulon.
Yng nghilannau serth
Ein natur welw,
Natur synn,
Sefon ni’n ddoeth.
Tros helynt hanes,
Ein trwyth ffawyddog a weinon
Er Kaer y Werin.
Ddaw ein Pwyll heb gwarel;
Blagur eiddgar, lliwgar, llon.
Trystan Gwydion
MMXXI